SL(5)382 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i bedwar offeryn statudol sy'n gysylltiedig â chynllunio gwlad a thref:

·         Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (O.S.1992/666) (“Rheoliadau 1992”);

·         Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2839);

·         Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801);

·         Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1597).

Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth drosiannol mewn perthynas â Rheoliadau 1992.

Gwneir y Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol, a diffygion eraill yng nghyfraith yr  UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir pedwar pwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae’r diwygiadau i Reoliadau 1992 yn cael eu gwneud o ganlyniad i newidiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Rheilffordd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffordd) (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2019 (“Rheoliadau 2019”) i Reoliadau Rheilffordd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffordd) 2005. Fodd bynnag, mae Rheoliadau 2019 yn offeryn cadarnhaol, a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 28 Ionawr 2019, ond sydd heb ei wneud eto. Felly, mae'r gwelliannau yn dibynnu ar y drafft fel y'i gosodwyd ar y dyddiad hwnnw. Nid yw'n glir beth fydd yn digwydd os na chaiff Rheoliadau 2019 eu gwneud fel y'u gosodwyd erbyn y diwrnod ymadael. Nid yw'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn yn esbonio beth fydd yn digwydd os na chaiff Rheoliadau 2019 eu gwneud yn ôl y disgwyl.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, ac mewn mannau mae'n gwneud cyfeiriadau amhenodol at gyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu rhai o Gyfarwyddebau’r UE, ond nid yw'n pennu'r ddeddfwriaeth berthnasol yn benodol. Mae rheoliad 5(5) yn mewnosod yn y diffiniad o “cynllun neu raglen berthnasol” y geiriad “unrhyw ddarpariaeth  yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu”. Mae hyn yn cyfeirio at weithredu Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewropeaidd ar reoli peryglon damweiniau mawr sy'n ymwneud â sylweddau peryglus. Mae geiriad tebyg ynghylch “unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA” wedi'i gynnwys yn Rheoliad 6. Mewnosodir y diffiniad o Gyfarwyddeb AEA gan reoliad 5(b) o'r Rheoliadau hyn (ac mae'n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2011/92 EU Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewropeaidd ar 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd fel y cafodd effaith yn union cyn y diwrnod ymadael).  Byddai'n ddefnyddiol pe bai cyfeiriadau at “unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir…” yn fwy penodol, er mwyn cynorthwyo'r darllenydd i ddeall pa ddarpariaethau yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n gymwys, hyd yn oed os bydd angen ymadrodd cyffredinol, gan gynnwys, er enghraifft, “ac unrhyw ddarpariaeth arall yng nghyfraith yr UE a ddargedwir…”.

3. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Dylai pennawd pwnc y Rheoliadau gynnwys “CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU” yn ychwanegol at “YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU”, i nodi'r maes cyfraith y mae'r offeryn yn ymwneud ag ef. 

4. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

Nid yw'r testun Saesneg yn rheoliadau 5(2)(a) a (b) a 6(3) yn cynnwys termau Cymraeg cyfatebol ar gyfer y diffiniadau perthnasol. Mae'r testun Cymraeg yn cynnwys termau Saesneg cyfatebol yn y lle priodol.

Rhinweddau: craffu

Nodir dau bwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Yn y fersiwn argraffedig a osodwyd o'r Rheoliadau, dywedwyd yn anghywir mai Hannah Blythyn a wnaeth y Rheoliadau, ac fe'i disgrifir fel y “Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.” Mae hyn yn anghywir, gan mai Hannah Blythyn yw'r Dirprwy Weinidog. Deallwn fod y Rheoliadau wedi'u gwneud a'u llofnodi'n gywir gan y Gweinidog, Julie James. Fodd bynnag, mae gwall gweinyddol wedi arwain at gynnwys yr enw anghywir ar y copi argraffedig, cofrestredig, a osodwyd gerbron y Cynulliad. 

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai gweithdrefn y penderfyniad negyddol yw’r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Pwyllgor wedi codi 4 pwynt technegol a 2 bwynt rhinweddau ynghylch y Rheoliadau hyn. Ymdrinnir â phob un o’r pwyntiau technegol yn ogystal â’r pwynt rhinweddau cyntaf.

Mae’r Pwyllgor wedi nodi bod y Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (“Rheoliadau 1992”) o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed gan Reoliadau Rheilffyrdd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffyrdd) (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019 (“Rheoliadau’r DU”) i Reoliadau Rheilffyrdd (Trwyddedu Ymgymeriadau Rheilffyrdd) 2005. Nid yw Rheoliadau’r DU wedi eu gwneud eto. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu â swyddogion yn yr Adran Drafnidiaeth sy’n gyfrifol am Reoliadau’r DU ynghylch eu hynt drwy ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig. Pe na bai Rheoliadau’r DU yn cael eu pasio gan y naill Dŷ neu’r llall, oherwydd natur dibyniaeth y Rheoliadau hyn ar Reoliadau’r DU, byddai angen i Weinidogion Cymru ddrafftio offeryn statudol pellach i ddirymu’r rhan o’r Rheoliadau hyn sy’n diwygio Rheoliadau 1992. Gellid gwneud hyn ar ôl y Diwrnod Ymadael gan na fyddai goblygiadau cyfreithiol pe bai’r diwygiadau hynny mewn grym ar y Diwrnod Ymadael.

O ran yr ail bwynt adrodd technegol, rydym yn derbyn y gellid ystyried bod y geiriad newydd yn annelwig ac nad yw o gymorth i’r darllenydd. Yn ystod y broses ddrafftio, gan fod cyfres sylweddol o offerynnau eraill yn ymwneud ag Ymadael â’r UE yn cael eu drafftio a’u datblygu ym maes Asesiadau Effaith Amgylcheddol, penderfynwyd mabwysiadu dull drafftio yn y Rheoliadau hyn a fyddai’n sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei chwmpasu. Penderfynwyd y byddai’n well gwneud hynny yn hytrach na chyfeirio at ddeddfwriaeth berthnasol, neu restru deddfwriaeth berthnasol, a fyddai’n golygu y gallai fod perygl i rywbeth gael ei hepgor neu, fel arall, y gellid cwmpasu rhywbeth amherthnasol. Yn unol â Chanllawiau’r Adran Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar Gyfraith yr UE a Ddargedwir, mae Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru o’r farn nad yw’r diffyg hwn wedi ei unioni’n llwyr a’i fod yn dal i fodoli ar ôl y Diwrnod Ymadael. O’r herwydd, bwriedir gwneud cywiriadau pellach i Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 yn rhinwedd y pwerau o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Byddai cywiriadau o’r fath yn rhoi yn lle’r cyfeiriadau at “unrhyw ddarpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a oedd yn gweithredu’r Gyfarwyddeb AEA” gyfeiriadau at ddarpariaethau penodol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir, ac ar yr un pryd yn darparu darpariaeth dal popeth ychwanegol i ganiatáu ar gyfer y risgiau a nodir uchod.

O safbwynt cyfreithiol, ystyrir bod yr holl ddiffygion a nodir ac a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn bellach wedi eu cywiro. Felly, ni fydd y pwerau o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i gywiro diffygion ar gael i wneud diwygiadau pellach yn y modd y mae’r Pwyllgor wedi ei awgrymu ar ôl y Diwrnod Ymadael.

O ran pwyntiau adrodd technegol 3 a 4, caiff y rhain eu cywiro drwy slip cywiro.

Mae’r Pwyllgor yn codi pwynt rhinweddau ynghylch y llofnod ar y Rheoliadau. Rydym yn cadarnhau mai Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a lofnododd yr O.S. ac rydym wedi rhoi copi wedi ei sganio o’r O.S. hwnnw wedi ei lofnodi i gynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol er mwyn cadarnhau hyn. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru bellach wedi cysylltu â Chofrestrydd yr Offerynnau Statudol i drefnu slip cywiro ar gyfer y gwall hwn a chaiff ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r Rheoliadau.

Rydym yn nodi’r ail bwynt rhinweddau ac yn diolch i’r Pwyllgor am ystyried y Rheoliadau hyn yn rhan o’r broses sifftio.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod a hefyd i dynnu sylw at faterion sy'n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.